English

CAERedigrwydd

Ymunwch â ni i fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghaerdydd. Tecstiwch DIFF20 a’ch rhodd i 70070.

#CAERedigrwydd yn grantiau bach i helpu pobl i symud i ffwrdd o ddigartrefedd. Caiff grantiau eu dosbarthu trwy'r gwasanaethau sydd ar flaen y gad yng Nghaerdydd. Am fwy o wybodaeth ynghylch sut bydd eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth, ewch i cfiw.org.uk

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw CAERedigrwydd?

Ymgyrch godi arian yw CAERedigrwydd, sy'n uno elusennau digartrefedd sydd eisoes wedi eu sefydlu ledled Caerdydd.

Mae ymchwil yn dangos y bydd llai na chwarter o bobl yn cario arian parod yn rheolaidd dros y ddeng mlynedd nesaf. Mae CAERedigrwydd yn gyfle i feddwl yn wahanol am sut y gall pobl roi i'r digartref pan fyddant yn cael eu cymell.

Yn bwysicaf oll, gan roi trwy dechnoleg, gall yr elusennau sy'n dosbarthu'r arian sicrhau ei fod yn mynd tuag at helpu pobl i gadw oddi ar y stryd am byth.

Mae'n darparu cronfa amgen i helpu'r elusennau digartrefedd hyn i gefnogi'r bobl y mae nhw'n gweithio â hwy, trwy grantiau bach. Gyda grantiau o hyd at £750 - sydd i'w gwario ar hanfodion a fydd yn helpu cynllun datblygu personol unigolyn - y nod yw darparu atebion unigol i faterion unigol.

Ar gyfer yr ymgyrch yma, diolch i Four Acre Trust, bydd pob £2 a roddir trwy'r man talu di-gyswllt yn troi’n £4 gan ddyblu'r hyn gall eich rhodd ei wneud.

Pam ydych chi’n dibynnu ar arian cyhoeddus i ddelio â digartrefedd?

Mae CAERedigrwydd yn bartneriaeth sy’n mynd i'r afael â digartrefedd yng Nghaerdydd rhwng FOR Cardiff, The Big Issue Cymru, Cyngor Caerdydd, Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, Huggard, Byddin yr Iachawdwriaeth, Heddlu De Cymru, The Wallich ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Crëwyd CAERedigrwydd i amlygu’r cyfoeth o wasanaethau a ddarperir er mwyn helpu i ddatrys cysgu ar y stryd ledled y ddinas, yn ogystal â chodi arian i ddarparu grantiau hanfodol i unigolion penodol sydd mewn perygl.

Mae rhoi arian neu fwyd i bobl sy'n byw ar y stryd yn cyfranu tuag at barhad digartrefedd, ond gwyddom fod pobl yng Nghaerdydd yn rhoi yn aml ac yn hael i'r bobl y maent yn gweld ar y strydoedd.

Mae ymchwil yn dangos y bydd llai na chwarter o bobl yn cario arian parod yn rheolaidd dros y ddeng mlynedd nesaf. Mae CAERedigrwydd yn gyfle i feddwl yn wahanol am sut y gall pobl roi i'r digartref pan fyddant yn cael eu cymell.

Yn bwysicaf oll, gan roi trwy dechnoleg, gall yr elusennau sy'n dosbarthu'r arian sicrhau ei fod yn mynd tuag at helpu pobl i gadw oddi ar y stryd am byth.

Ar gyfer yr ymgyrch yma, diolch i Four Acre Trust, bydd pob £2 a roddir trwy'r man talu di-gyswllt yn troi’n £4 gan ddyblu'r hyn gall eich rhodd ei wneud.

A yw fy rhoddion yn talu am yr ymgyrch yma?

FOR Cardiff, sef Ardal Gwella Busnes Caerdydd, sy’n ariannu ymgyrch CAERedigrwydd fel y gall yr arian a roddir gan y cyhoedd fynd tuag at helpu'r rhai sy'n dioddef o ddigartrefedd neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Rydym hefyd yn ffodus i gael Four Acre Trust fel ariannwr cyfatebol felly mae pob £2 a roddir yn troi’n £4 er mwyn dyblu’r gwahaniaeth all eich rhodd wneud

A yw’r holl arian yn mynd tuag at unigolion/sefydliadau?

Mae CAERedigrwydd yn ymrwymedig i sicrhau bod yr arian a roddir gan y cyhoedd yn helpu i newid bywydau pobl sy'n dioddef o ddigartrefedd neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae hyn yn cynnwys y gost o sicrhau bod y grantiau'n cael eu dyrannu i'r bobl iawn ar yr adeg iawn a'u bod yn cael eu monitro'n iawn. Yn yr achos hwn, mae 10% o’r rhoddion yn mynd i'r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru i dalu costau gweinyddol rheoli'r gronfa.

Mae 10% arall wedi'i neilltuo ar gyfer sefydliadau sy'n gweithio gyda'r rheiny sydd mewn perygl o Brofiadau Niweidiol mewn Plentyndod, er mwyn atal y genhedlaeth nesaf rhag bod yn ddigartref neu orfod troi at weithgareddau ar y stryd fel gofyn cardod. Mae pob £2 a roddir yn troi’n £4, diolch i Four Acre Trust.

Sut ydw i’n gwybod bod fy rhodd yn cael ei wario yn y ffordd iawn?

Ar hyn o bryd, mae'r gronfa’n aros i roddion gan y cyhoedd gynyddu er mwyn dosbarthu grantiau.

Gall sefydliadau wneud cais am grantiau o hyd at £750 i unigolion a caiff ceisiadau eu hasesu gan banel a oruchwylir gan Sefydliad Cymunedol yng Nghymru.

Gallai enghreifftiau o geisiadau a all fod yn llwyddiannus, gynnwys:

  • Dillad addas ar gyfer cyfweliadau a/neu gyflogaeth
  • Beic i gyrraedd swydd newydd
  • Ffioedd hyfforddi/cwrs
  • Pris tocyn i ymweld â theulu sydd wedi ymddieithrio
  • Dodrefn/eitemau’r cartref ar gyfer rhywun sydd wedi symud o’r stryd i denantiaeth
  • Cynghori
  • Deunyddiau/offer gwaith

Ar ôl eu dyfarnu, caiff y grantiau eu trin a'u monitro gan y sefydliadau - ni fydd arian parod yn cael ei roi yn uniongyrchol i'r defnyddiwr gwasanaeth – a bydd angen prawf o bryniad.

Pa mor gyflym fydd y grantiau’n cael eu creu a’u dosbarthu?

Mae ceisiadau am grantiau bellach ar agor trwy cfiw.org.uk. Gall sefydliadau wneud cais am grantiau o hyd at £750 ar gyfer unigolion.

Caiff ceisiadau am grantiau o hyd at £250 eu prosesu mewn pum niwrnod gwaith a ceir penderfyniad yn fewnol gan Sefydliad Cymunedol yng Nghymru. Prosesir grantiau o £250- £750 o fewn 10 diwrnod gwaith ac fe’u penderfynir gan banel.

Mae amseroedd prosesu yn dibynu ar ddychwelyd y llythyr cynnig a llofnod ar gyfer y telerau ac amodau gan y gweithiwr cymorth a'r unigolyn.

Yn dilyn cynnig llwyddiannus, mae cyfrifoldeb ar y sefydliad i weithio gyda phobl i wario'r arian mewn cyfnod o amser sy’n rhesymol.

A ydych chi’n dweud wrth bobl i beidio a rhoi’n uniongyrchol i bobl ar y stryd?

Mae CAERedigrwydd yn darparu ffordd wahanol o roi i bobl sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Mae ymchwil yn dangos y bydd llai na chwarter o bobl yn cario arian parod yn rheolaidd dros y ddeng mlynedd nesaf. Mae CAERedigrwydd yn gyfle i feddwl yn wahanol am sut y gall pobl roi i'r digartref pan fyddant yn cael eu cymell. Ar gyfer yr ymgyrch yma, diolch i Four Acre Trust, bydd pob £2 a roddir drwy'r man talu di-gyswllt yn troi’n £4 gan ddyblu'r hyn gall eich rhodd ei wneud.

Yn bwysicaf oll, gan roi trwy dechnoleg, gall yr elusennau sy'n dosbarthu'r arian sicrhau ei fod yn mynd tuag at helpu pobl i gadw oddi ar y stryd am byth.

Pam ddim jest rhoi i elusennau sy’n bodoli eisoes?

Nid elusen arall yw CAERedigrwydd. Mae’n ymgyrch godi arian sy’n uno elusennau digartrefedd sy’n bodoli yng Nghaerdydd eisoes.

Mae'n darparu cronfa amgen i helpu'r elusennau digartrefedd hyn i gefnogi'r bobl maent yn gweithio â nhw, trwy grantiau bach.

A yw’r dechnoleg yma wedi cael ei ddefnyddio o’r blaen a sut ydych chi’n gwybod y bydd yn llwyddiannus?

Ydy, mae Cancer Research UK wedi treialu blaen siopau di-gyswllt yn Llundain a defnyddiwyd technoleg debyg gan Rough Sleeping Alliance ym Mryste gan brofi llwyddiant mawr.

Dyma'r tro cyntaf iddo ddod i Gymru i fynd i'r afael â digartrefedd a gobeithiwn y bydd yr un mor llwyddiannus.

Cerdyn ar gyfer Caerdydd

Yn ystod tair wythnos olaf mis Mawrth, casglwyd rhoddion ar gyfer ymgyrch CAERedigrwydd gyda thechnoleg di-gyswllt ar ein safle rhyngweithiol yng nghanol dinas Caerdydd.

Ar gyfer pob tap yn y man talu di-gyswllt, rhoddir £2 tuag at grantiau bach i'r rhai sydd yn dioddef o ddigartrefedd ar hyn o bryd neu sydd mewn perygl o ddigartrefedd. Diolch i'r Four Acre Trust, bydd eich rhodd o £2 yn dyblu i £4.